TELERAU AC AMODAU AR GYFER DEFNYDDIO'R WEFAN
Darperir y wefan hon ar eich cyfer yn amodol ar y telerau a'r amodau canlynol. Darllenwch nhw'n ofalus ac os nad ydych yn cytuno gyda'n telerau, peidiwch â defnyddio'r wefan.
Gweithredir y safle gan Environmental Campaigns (Cymru) gyda rhif cwmni 4011164.
Mae swyddfa gofrestredig Cadw Cymru'n Daclus yn 33-35 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HB
Cadw Cymru'n Daclus, Elusen Gofrestredig y DU Rhif 1082058.
Mae Environmental Campaigns (Cymru) yn darparu'r safle hon ar sail ‘fel ag y mae' ac nid yw'n rhoi unrhyw sicrwydd na gwarant o unrhyw fath yn ei chylch neu ynghylch ei chynnwys ac mae'n ymwadu o unrhyw sicrwydd neu warant o'r fath.
Ar ben hynny, nid yw Environmental Campaigns (Cymru) yn rhoi unrhyw sicrwydd na gwarant ynghylch cywirdeb, cyfanrwydd nag addasrwydd ar gyfer unrhyw ddiben yr wybodaeth a'r graffeg cysylltiol sy'n cael ei gyhoeddi ar y safle hon. Gall yr wybodaeth sydd ar y safle hon gynnwys camgymeriadau technegol neu wallau teipograffeg. Eithrir yn benodol bob atebolrwydd ar ran Environmental Campaigns (Cymru) sut bynnag y gallai godi o gamgymeriadau neu wallau o'r fath hyd yr eithaf y caniateir gan y gyfraith.
Ni fydd Environmental Campaigns (Cymru) nac unrhyw un o'i gyfarwyddwyr, cyflogeion neu gynrychiolwyr eraill yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod yn codi o, neu gysylltiad â, defnydd o'r safle hon.
Mae hyn yn gyfyngiad cynhwysfawr o atebolrwydd sy'n berthnasol i iawndal o unrhyw fath, gan gynnwys heb gyfyngiad iawndal digolledu, uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli data, incwm neu elw, colled neu ddifrod i eiddo a hawliadau trydydd partïon.
Cwcis
Ffeiliau testun bychan yw cwcis y mae gwefan yn eu trosglwyddo i ddisg caled neu borwr ymwelydd â'r wefan i'w gwneud i weithio'n well neu er mwyn cadw cofnod o ddefnydd y wefan. Nid ydym ni'n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth bersonol megis enw neu gyfeiriad e-bost person. Er mwyn mesur effeithiolrwydd ein presenoldeb ar lein efallai y byddwn yn defnyddio cwcis i adnabod ymwelwyr sy'n dychwelyd i'r wefan ac i benderfynu pa lwybr y bydd ymwelwyr yn ei gymryd ar ein safle.
Mae defnyddio cwcis yn arferiad safonol yn y diwydiant ac mae llawer o wefannau'n eu defnyddio. Os nad ydych yn dymuno derbyn cwcis, neu eisiau derbyn gwybodaeth pan fyddant yn cael eu gosod, gallwch osod eich porwr gwe i wneud hynny, os yw'ch porwr yn caniatáu hynny.
Defnyddiau rydych yn ei roddi i ni
Os byddwch yn anfon syniadau, sylwadau, cwestiynau, data graffeg lluniau neu debyg ("y cyflwyniadau" i'r Safle) dyfernir na fydd y rhain yn gyfrinachol a bydd gennym hawl i'w defnyddio neu i'w datgelu mewn unrhyw ffordd bosibl, heb atebolrwydd na rhoi gwybod i chi. Ni ddylai'r cyflwyniadau neu unrhyw wybodaeth arall y byddwch yn eu hanfon i'r safle fod yn, na chynnwys, ddefnyddiau sy'n dramgwyddus. Peidiwch ag anfon unrhyw beth y mae gofyn ei gadw'n gyfrinachol.
Cysylltiadau
Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw dudalennau oddi ar y safle nac am safleoedd eraill sydd â chysylltiadau â'r safle ac nid ydyn wedi adolygu safleoedd o'r fath.
Ni ellir ein dal yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan sydd wedi'i chysylltu'n electronig â'r wefan ac nad yw'n cael ei chynnal gennym ni.
|